Adroddiad Rygbi Mehefin 2018
Contract Academi’r Scarlets
Rhoddwyd contract Academi’r Scarlets i 2 ddisgybl o Ysgol Bro Dinefwr sef Iestyn Rees a Dafydd Land. Mae hyn yn golygu bod 5 disgybl o Ysgol Bro Dinefwr yn Llwybr Academi’r Scarlets. Y 5 disgybl yw Corey Baldwin, Daniel Davis, Harri Doel, Iestyn Rees a Dafydd Land.
Tîm Dwyrain Dan 16 y Scarlets
Da iawn i Tomas Pritchard, Ben Evans, Owen Phillips a Sean Vale ar gael eu dewis ar gyfer sgwad Dwyrain Dan 16 y Scarlets ar gyfer yr haf.
Tîm Dan 15 Mynydd Mawr a Dinefwr
Ar ddydd Mercher chwaraeodd tîm blwyddyn 9 yn y treialon sir blynyddol yn erbyn Dyffryn Aman, Maes y Gwendraeth a Choleg Llanymddyfri. Chwaraeodd y tîm yn dda dros ben a dewiswyd y 10 disgybl canlynol ar gyfer hyfforddiant yr haf.
Scott Jones, Iestyn Moon, Joshua Morse, Owain Powell, Morgan Bending, Cameron Simpson, Iestyn Richards, Celt Williams, Tallian Thomas a Tomos Moore
Tîm Dan 15 Mynydd Mawr a Dinefwr
Da iawn i Owen Phillips ar gael ei enwi’n “Chwaraewyr y Flwyddyn yr Hyfforddwyr” yn noson wobrwyo Tîm dan 15 Mynydd Mawr a Dinefwr. Disgrifiodd Richard Hardy o URC Owen fel “chwaraewr mwyaf ymrwymedig y sir, mae’n ddelfryd ymddwyn i’r ysgol, chwaraewr gonest a chwaraewr y mae pawb yn ei barchu.” Canmoliaeth uchel yn wir i chwaraewr a allai, o bosibl, efelychu Iestyn Rees.
Rygbi’r Merched
Chwaraeodd merched blynyddoedd 8 a 9 yn erbyn Coedcae yw wythnos ddiwethaf gan chwarae’n hynod o dda. Enillodd tîm blwyddyn 8 o 45-40 a chollodd tîm Blwyddyn 9 o drwch blewyn 25-30 ond disgyblion sy’n haeddu sylw yw Phoebe Davis, Ela Morgan, Nia Williams, Bethan Nicholas, Jazmin Jones a Tirion Evans.