Athletau Brianne
Dydd Mercher diwethaf teithiodd timoedd y ‘Cwpan’ i Gaerfyrddin i gymryd rhan yng nghystadleuaeth Athletau Brianne. Ar ddiwrnod poeth iawn roedd y tîm iau a thîm y merched canol wedi cystadlu’n arbennig o dda. Roedd y tîm iau’n 4ydd a’r tîm canol yn 2il. Bydd tîm merched blwyddyn 9 a 10 nawr yn mynd i rownd derfynol Dyfed yn Hwlffordd ar 20fed Mehefin. Da iawn ferched.